Need help?

Business Internet Banking

Log on to Business Internet Banking

Find out more

Cyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol


I HSBC, ystyr cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol yw rheoli ein busnes yn gyfrifol ac yn sensitif ar gyfer llwyddiant hirdymor. Nid elw ar unrhyw gyfrif yw ein nod, ac ni fu hynny erioed yn nod, oherwydd gwyddom fod llwyddiant yfory yn dibynnu ar yr ymddiriedaeth a adeiladwn heddiw.

Ceisiwn fynd i'r afael â disgwyliadau ein cwsmeriaid, cyfranddeiliaid, cyflogeion a rhanddeiliaid eraill.

Mae bod yn un o fanciau mwya'r byd yn golygu y gall y penderfyniadau a wnawn gael effaith fawr. Ceisiwn fenthyg a buddsoddi yn gyfrifol, gan osgoi prosiectau lle mae'r posibilrwydd y bydd niwed cymdeithasol ac amgylcheddol yn fwy na'r buddiannau economaidd.

Mae'n rhaid i gwmnïau fel ni rannu cyfrifoldeb dros yr amgylchedd gyda llywodraethau a dinasyddion i leihau effeithiau niweidiol gweithgarwch dynol – llygru tir, dŵr a'r aer a lleihau adnoddau.

Mae'r byd yn lle cyfoethog ac amrywiol. Os bydd ein pobl yn adlewyrchu'r amrywiaeth hwn, yna gallwn ragweld anghenion ein cwsmeriaid a'u diwallu.

Mae cynnwys ein cyflogeion yn y gymuned yn dod â llawer o fanteision yn ei sgîl. Mae ein cyflogeion yn ennyn dealltwriaeth, hyder a hunan-barch. Mae cael ein cydnabod yn y gymuned hefyd yn helpu HSBC i ddenu pobl arbennig. Rhagor o wybodaeth am weithio i HSBC yng Nghymru.

Mae addysg yn hanfodol i ddatblygiad a ffyniant pob gwlad. Drwy fuddsoddi mewn addysg, ceisiwn fagu hyder a gallu ein pobl ifanc y bydd ein busnes a'n llwyddiant yn y dyfodol yn dibynnu arnynt, boed yn gwsmeriaid neu'n gyflogeion i ni.


Rhannu ein llwyddiant

Ein cyfrifoldeb cyntaf yw bod yn gwmni llwyddiannus. Llwyddiant yw'r unig ganlyniad sy'n bodloni ein holl randdeiliaid. Heb lwyddiant, ni fyddai ein cyfranddeiliaid yn buddsoddi ynom, ni fyddai ein cwsmeriaid yn bancio gyda ni, ac ni fyddai pobl dda yn dod i weithio i ni. Mae ein llwyddiant hefyd yn golygu y gallwn gyflawni ein cyfrifoldebau i'r byd ehangach, i'r cymunedau rydym yn gweithredu ynddynt.