Gellir olrhain hanes HSBC yng Nghymru yn ôl i'r 18fed ganrif.
Cyfoeth Cymru
Mae'r stori yn cychwyn yn 1752 pan agorwyd Banc y Llong, banc cyntaf Cymru yn ôl y sôn, yn Aberystwyth.
Roedd yn gyfnod o gyfleoedd newydd: adeiladwyd ffyrdd a chamlesi, a agorodd adnoddau glo a mwynau helaeth y wlad i ddatblygu diwydiannol. Arweiniodd dyfodiad y rheilffyrdd yn y 1840au at ddatblygu diwydiant Cymru ar raddfa fawr.
Y Banciau Cyntaf yng Nghymru
Datblygwyd bancio ochr yn ochr â diwydiant. Un o ragflaenwyr cynharaf HSBC yng Nghymru oedd North Wales Bank (neu Sankey & Co), partneriaeth a ffurfiwyd yn 1790 rhwng y diwydianwyr glo a phlwm yn Nhreffynnon.
Ar raddfa fwy, lansiwyd Swansea Bank yn 1872 gan ddiwydianwyr lleol a sylweddolodd fod y trefniadau bancio ar y pryd yn rhy gyfyngedig i ganiatáu ar gyfer ymlediad cyflym Abertawe. Agorodd ganghennau yn y porthladdoedd a oedd yn datblygu yn ne Cymru. Ar ôl ehangu ei weithrediadau i Gaerdydd yn 1889, newidiwyd ei enw i South Wales Union Bank.

Ewch i'n gwefannau bancio busnes a bancio personol am wybodaeth am amrywiaeth o wasanaethau a chynhyrchion ariannol HSBC.
1762 Banc y Llong a sefydlwyd yn Aberystwyth.
1790 North Wales Bank (Sankey & Co), a sefydlwyd yn Nhreffynnon.
1803 Old Merionethshire Bank (Williams & Son) a sefydlwyd yn Nolgellau.
1808 Kington & Radnorshire Bank a sefydlwyd yng Ngheintun a Threfyclo.
1822 Douglas, Smalley & Co a sefydlwyd yn Nhreffynnon.
1847 North & South Wales Bank a sefydlwyd yn Lerpwl.
1847 Cassons & Co a sefydlwyd ym Mhorthmadog.
1872 Sefydlu Swansea Bank (a newidiodd ei enw i South Wales Union Bank).
1877 Sefydlu The Bala Banking Company.
1892 Metropolitan Bank, a sefydlwyd yn Birmingham yn 1829, yn cael cynrychiolaeth yng Nghymru.
Awydd cael rhagor o wybodaeth?
Ysgrifennwch at Group Archives
HSBC Holdings plc, 10 Lower Thames Street, EC3R 6AE
Ffôn: 020 7260 7609
e-bost: group.archives@hsbcgroup.com
Wales Bank
Ym mis Ebrill 1836 lansiwyd menter fancio newydd. Sefydlwyd North & South Wales Bank (neu 'Wales Bank') gan grŵp o weithgynhyrchwyr, masnachwyr a phobl fusnes a welodd yr angen am fanc a oedd yn gallu darparu ar gyfer Cymru gyfan. O'i bencadlys yn Lerpwl, dechreuodd y banc newydd sefydlu rhwydwaith o ganghennau yng Nghymru ar unwaith. O fewn mis roedd wedi cymryd drosodd North Wales Bank a busnes Banc y Llong ac roedd wedi agor canghennau ym Mhorthmadog, Ffestiniog, Dolgellau, y Trallwng, y Drenewydd a Threfesgob. O'r sylfaen hwn ehangodd yn raddol.
The Metropolitan Bank of England & Wales
Yn y cyfamser roedd angen ffynonellau cyfalaf cynyddol ar y diwydiannau glo a metel yn ne Cymru ac ymgymerodd Metropolitan & Birmingham Bank â'r her. Roedd symud i dde Cymru yn gyfle delfrydol gan fod gan y diwydianwyr yn Birmingham gysylltiadau hanesyddol gyda'r diwydiannau glo a metel yno. Erbyn diwedd 1893 roedd ganddo 36 o ganghennau a 31 o is-ganghennau dros dde Cymru gan symud i'r gogledd mor bell â Llangefni a Llandudno. Yn yr un flwyddyn newidiodd ei enw i Metropolitan Bank of England & Wales.
Bancio yn yr 20fed Ganrif
Gwnaeth Wales Bank a'r Metropolitan Bank ddominyddu bancio yng Nghymru i mewn i ddechrau'r ugeinfed ganrif. Parhaodd Wales Bank i ehangu ei rwydwaith o ganghennau drwy agor mewn ardaloedd newydd ac yn 1904 cyrhaeddodd ei fan pellaf yn y de pan agorodd gangen yng Nghaerfyrddin. Erbyn diwedd 1907 roedd gan Wales Bank rwydwaith o 84 o ganghennau a 24 o is-ganghennau. Parhaodd y Metropolitan Bank i ehangu ei fusnes hefyd gan agor cyfanswm o 10 cangen newydd rhwng 1900 a 1910 a chaffael busnes Davies, Banks & Co o Geintun yn 1910.
Fodd bynnag, ni allai'r ddau fanc yng Nghymru gystadlu gyda'r banciau mwy yn Llundain a oedd yn prysur gael busnes ledled Prydain. Ym mis Tachwedd 1908, unodd Wales Bank â London, City & Midland (sef Midland yn ddiweddarach), a oedd yn rhan o un o'r banciau mwyaf yn y DU. Dilynodd y Metropolitan Bank yn 1914.
Heddiw, Midland yw Banc HSBC. Mae'n un o brif aelodau Grŵp HSBC, un o sefydliadau bancio a gwasanaethau ariannol mwyaf y byd gyda thros 5,000 o swyddfeydd mewn 82 o wledydd a thiriogaethau.
Mae HSBC yn falch o'i hanes yng Nghymru ac yn edrych ymlaen at barhau â'i berthynas hir gyda chymunedau Cymru.
Ewch i business.hsbc.co.uk
Gwasanaethau bancio ac ariannol a ddarperir i fusnesau sy'n gweithredu mewn cymunedau lleol yng Nghymru.
Cysylltwch â ni heddiw i weld sut y gallwn eich helpu i gyflawni eich nodau busnes.
Ewch i hsbc.co.uk/personal
Gwasanaethau bancio ac ariannol a ddarperir i bobl sy'n byw mewn cymunedau lleol yng Nghymru.
Cysylltwch â ni heddiw i weld sut y gallwn eich helpu chi a'ch teulu i gyflawni eich nodau ariannol.