Need help?

Business Internet Banking

Log on to Business Internet Banking

Find out more

Croeso i HSBC yng Nghymru

Ymrwymiad HSBC i Gymru a'r Iaith Gymraeg

Mae athroniaeth HSBC yn un o gryfder byd-eang drwy reoli ar sail gwledydd ar lefel leol, gan gefnogi gofynion ac arferion busnes lleol. Yng Nghymru mae'r agwedd hon wedi'n galluogi i ddatblygu ein polisi dwyieithrwydd yn rhagweithiol, i ymateb i anghenion y farchnad leol.

Yn HSBC rydym yn ymroddedig i fywyd, diwylliant a phobl Cymru, ac fel siaradwr Cymraeg fy hun ein polisi ni yw trin y Gymraeg a'r Saesneg yn gyfartal ym mhob un o'n canghennau yng Nghymru, a thrwy wneud hynny, ddarparu gwasanaeth o'r safon orau i'n cwsmeriaid.

HSBC yng Nghymru

Awydd cael rhagor o wybodaeth? Darllenwch fwy am ein hanes yng Nghymru.

Gallwch hefyd gael gwybodaeth am ein hymrwymiad i Gyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol a phrosiectau a wnawn yn y gymuned leol. Ac ar gyfer y rheini a fyddai'n awyddus i ymuno â'n tîm, gallwch hefyd gael gwybodaeth am ein swyddi gwag.

Gwasanaethau bancio yng Nghymru

Mae HSBC yn darparu amrywiaeth gynhwysfawr o wasanaethau bancio busnes a phersonol drwy ei rwydwaith o ganghennau yng Nghymru.

Rydym yn ymfalchïo ein bod yn cefnogi'r iaith Gymraeg, yn ysgrifenedig ac ar lafar. Mae ein polisi dwyieithrwydd yn cyfleu ein cynlluniau. Ymhlith yr enghreifftiau lle rydym yn hyrwyddo'r iaith Gymraeg mae:

  • Arwyddion dwyieithog mewn canghennau.
  • Deunydd marchnata a deunydd darllen.
  • Deunydd ysgrifennu personol mewn canghennau.
  • Sgriniau peiriannau arian parod.
  • Sgriniau peiriannau talu i mewn.
  • Sgriniau peiriannau cyfriflenni.
  • Sgriniau peiriannau hunanwasanaeth.

Mae'r banc yn annog defnyddio'r Gymraeg yn y gweithle, ac mae hyn yn cynnwys ein canghennau a'n Canolfannau Gwasanaethau Cwsmeriaid.

Gallwch ffonio ein Llinell Gymraeg ar 08457 030304. Mae llawer o ffyrdd eraill i gysylltu â ni. Rhagor o wybodaeth.