1. Cyflwyniad
Rydym yn gwbl ymrwymedig i bobl a diwylliant Cymru, ac yn cydnabod pwysigrwydd yr iaith Gymraeg wrth ddilyn ein dyheadau busnes. Ein nod yw trin y Gymraeg a'r Saesneg yn gyfartal ym mhob un o'n canghennau yng Nghymru, a thrwy wneud hynny, ddarparu gwasanaeth o'r safon uchaf i'n cwsmeriaid.
Mae'r ddogfen hon yn nodi sut y byddwn yn rhoi'r egwyddor o gydraddoldeb ar waith o ran ein hunaniaeth gorfforaethol a thrwy ddarparu gwasanaethau i'r cyhoedd yng Nghymru. Mae'n cynrychioli datganiad o fwriad gan gydnabod cyflawniadau hyd yn hyn a nodi ein dull o weithredu yn y dyfodol ar gyfer darparu cyfleusterau Cymraeg i'n cwsmeriaid. Ein hamcan yw bod mewn sefyllfa lle caiff gwasanaethau ariannol a gynigir gan Fanc HSBC yng Nghymru eu darparu a'u cynnal drwy gyfrwng y Gymraeg neu'r Saesneg yn ôl dewis iaith ein cwsmeriaid.
2. Deunydd Gweledol
2.1 Arwyddion
Arddangosfeydd ac arwyddion parhaol y gall y cyhoedd eu gweld
Mae'r arwyddion allanol a mewnol mewn ardaloedd cyhoeddus yn ein canghennau yn ddwyieithog. Pan ddarperir arwyddion Cymraeg a Saesneg ar wahân, byddant yn gyfartal o ran fformat, maint, ansawdd ac amlygrwydd.
2.2 Deunydd marchnata a deunydd darllen
Arddangosfeydd marchnata dros dro a phosteri, llyfrynnau a thaflenni
Mae HSBC yn ceisio darparu pob deunydd sydd wedi'i gyfeirio at y cyhoedd yng Nghymru mewn fformat dwyieithog. Dim ond gan realiti masnachol yn unig y cânt eu cyfyngu – er enghraifft, pan fydd cyfnod ar y silffoedd yn atal cynhyrchu’n ddwyieithog neu pan fydd yn amhosibl eu darparu.
Mewn amgylchiadau eithriadol, darperir fersiynau Cymraeg ar wahân; er enghraifft, pan na fyddai deunydd arddangos yn effeithiol fel fformat dwyieithog. Os darperir deunyddiau Cymraeg a Saesneg ar wahân, byddant yn gyfartal o ran fformat, maint, ansawdd ac amlygrwydd.
Y nod yw sicrhau y caiff fersiynau dwyieithog a Saesneg eu cyhoeddi ar yr un pryd. Fodd bynnag, os na fydd hyn yn bosibl am ba reswm bynnag, cyhoeddir fersiynau dwyieithog o fewn chwe wythnos.
Rhoddir blaenoriaeth i ddeunyddiau sydd â chryn ddefnydd iddynt o ran cynhyrchu deunyddiau dwyieithog. Enghreifftiau o'r math o ddeunydd darllen a gynhyrchir yn ddwyieithog ar hyn o bryd yw ein llyfrynnau craidd sy'n rhoi gwybodaeth am y gwasanaethau ariannol amrywiol a ddarperir. Mae'r deunydd a gynhyrchir yn destun adolygiad parhaus i ymestyn yr amrywiaeth o ddeunydd dwyieithog sydd ar gael.
Bydd unedau symudol sy'n ymweld â Chymru yn cludo arwyddion, deunydd marchnata a deunydd darllen dwyieithog.
2.3 Dosbarthu ac arddangos
Bydd canghennau HSBC yng Nghymru yn derbyn ac yn arddangos deunydd dwyieithog yn awtomatig yn unol â'r polisi.
Pan na fydd yn bosibl darparu deunydd dwyieithog ac y cynhyrchir fersiwn/gorddalen yn Gymraeg ar wahân, bydd pob cangen yn cael fersiwn Cymraeg yn ogystal â'r Saesneg. Caiff y ddau fersiwn eu harddangos ble bynnag y bo'n bosibl.
2.4 Hunaniaeth gorfforaethol
Mae deunydd ysgrifennu personol mewn canghennau yn adlewyrchu hunaniaeth ddwyieithog y banc yng Nghymru.
Caiff cardiau busnes, slipiau cyfarch a thaflenni ffacs eu cynhyrchu yn ddwyieithog. Papur pennawd – am fod llythyrau yn cael eu cynhyrchu ym mhob cangen, caiff papur pennawd Cymraeg a Saesneg ar wahân eu cynhyrchu yn dibynnu ar p'un a anfonir llythyr Cymraeg neu Saesneg.
2.5 Offer hunanwasanaeth
Peiriannau arian parod, peiriannau talu i mewn a pheiriannau cyfriflenni
Mae opsiwn Cymraeg neu Saesneg ar negeseuon sgrîn yr holl gyfleusterau uchod yn dibynnu ar ddewis y cwsmer.
3. Polisi siarad Cymraeg
Mae'r banc yn annog defnyddio'r Gymraeg yn y gweithle drwy ddarparu gwasanaeth Cymraeg llafar.
3.1 Cyfathrebu dros y ffôn
Mae ein Canolfan Gwasanaethau Cwsmeriaid yn darparu gwasanaeth ffôn dwyieithog. Mae dau rif cangen, un ar gyfer ymholiadau Cymraeg a'r llall ar gyfer ymholiadau Saesneg.
Llinell Gymraeg – 08457 030304
Llinell Saesneg – 08457 404404
Mae rhai gwasanaethau, fel ymholiadau ar gyfer cardiau sydd ar goll neu wedi'u dwyn wedi'u lleoli yn Lloegr. Yn yr achosion hyn, ac am resymau ymarferol yn unig, caiff y galwadau eu cynnal yn Saesneg.
3.2 Dulliau eraill o gyfathrebu
Mae faint o staff sy'n siarad Cymraeg mewn canghennau yn adlewyrchu natur yr ardal y mae'r gangen wedi'i lleoli ynddi. Ble bynnag y bo'n bosibl, bydd unrhyw gwsmer sy'n gofyn am gael siarad yn Gymraeg yn cael ei roi mewn cysylltiad â siaradwr Cymraeg. Mae gan staff fathodynnau enwau sy'n dynodi a ydynt yn siarad Cymraeg.
3.3 Recriwtio
Byddwn yn ystyried gallu ieithyddol fel un o nifer o sgiliau i'w hystyried ar gyfer swyddi yng Nghymru a bydd ein hysbysebion recriwtio yn ddwyieithog.
3.4 Hyfforddiant Cymraeg
Mae HSBC yn annog staff i ddysgu Cymraeg neu i loywi eu hiaith. Darperir nifer o gyrsiau drwy'r cwmni, o gyrsiau dwys i gyrsiau preswyl.
4. Gohebiaeth
Gellir gohebu â chwsmeriaid yn Gymraeg neu'n Saesneg. Ymatebir i lythyrau Cymraeg a dderbyniwyd gan gwsmeriaid yn Gymraeg.
Mae'r llythyrau safonol a anfonir gan ganghennau yng Nghymru ar gael yn Gymraeg ac yn cael eu hadolygu, eu diweddaru a'u haddasu yn barhaus.
4.1 Datganiadau i'r Wasg
Caiff datganiadau i'r wasg sy'n ymwneud â HSBC yng Nghymru eu cyhoeddi yn ddwyieithog a bydd llefarydd Cymraeg ar gael i roi sylwadau pan fo angen.
4.2 Hysbysebion
Cynhyrchir hysbysebion yn Gymraeg, yn Saesneg neu'n ddwyieithog yn dibynnu ar y cyhoeddiad a natur yr hysbyseb.
4.3 Post Uniongyrchol
Cyhoeddir ymgyrchoedd Post Uniongyrchol a ddaw o HSBC yng Nghymru yn ddwyieithog – fel Cerdyn Cymru a Phost Gwasanaethau Cwsmeriaid.
5. Dogfennau gweithredol
Ymhlith yr enghreifftiau o eitemau yn y categori hwn sydd ar gael yn ddwyieithog ar hyn o bryd mae mandadau cyfrif, mandadau archeb sefydlog, llyfrau gweithgareddau, llyfrau siec a llyfrau talu i mewn. Derbyniwn sieciau clirio sydd wedi'u hysgrifennu yn Gymraeg.
Darperir eitemau penodol o'r natur hon, p'un a ydynt yn Saesneg neu'n ddwyieithog ar gais y cwsmer. Pan gânt eu cynhyrchu, bydd gan ganghennau yng Nghymru stoc o fersiynau dwyieithog a fydd ar gael i bob cwsmer fel norm.
Nod HSBC yw cynhyrchu deunyddiau o'r fath, sy'n cael eu hadolygu, eu diweddaru a'u haddasu yn barhaus mewn fformat dwyieithog ble bynnag y bo'n bosibl. Ystyrir eitemau ar gyfer eu cynhyrchu yn ddwyieithog ar sail unigol gan ystyried strategaeth farchnata, galw'r gangen a galw'r cwsmeriaid.
Darperir telerau ac amodau cyfreithiol yn Saesneg ar hyn o bryd. Ymgymerir ag adolygiad parhaus i ystyried darparu'r rhain yn ddwyieithog.
6. Proffil cymunedol
Mae HSBC yn gwneud ymrwymiad parhaol i gymunedau yng Nghymru, gan adnewyddu canghennau, gosod peiriannau arian parod mewn trefi a phentrefi a chefnogi addysg, yr amgylchedd, chwaraeon a'r celfyddydau. Ble bynnag y bo'n bosibl, bydd mentrau cymunedol yn adlewyrchu ein polisi dwyieithrwydd.
7. Gwasanaeth cyfieithu
Caiff pob cais am gyfieithu gan ganghennau eu cyfeirio drwy'r Ganolfan Reoli, Cymru. Bydd cyfreithiwr a benodir gan y banc yn rhoi cymeradwyaeth gyfreithiol i rai dogfennau a gyfieithir.
8. Monitro
Bydd y banc yn monitro'r gwaith o weithredu'r polisi ac yn darparu adroddiad cynnydd blynyddol o ran y cynllun. Caiff cyfrifoldeb dros weithredu agweddau ar y cynllun sy'n berthnasol i adrannau neu ganghennau ei ddirprwyo i reolwyr. Caiff pob aelod o staff ei annog i dderbyn perchenogaeth o'r cynllun.
9. Gweithredu
Caiff pob aelod o staff HSBC sy'n dod i gysylltiad â'r cyhoedd yng Nghymru ei hysbysu o'r polisi dwyieithrwydd a chânt y wybodaeth ddiweddaraf yn rheolaidd am bob agwedd ar y gwasanaeth Cymraeg.
Bydd copïau o'r polisi hwn ar gael ar-lein yn www.hsbc.co.uk/cymru. Am ragor o wybodaeth am y cynllun hwn cysylltwch â:
Banc HSBC ccc
97 Stryd Bute
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF10 5NA