Mae HSBC yn cefnogi'r cymunedau rydym yn gweithredu ynddynt drwy ein cyflogeion a thrwy roddion.
Ein polisi yw canolbwyntio ein hymdrechion ar addysg – yn enwedig ar gyfer pobl ifanc ddifreintiedig – a'r amgylchedd. Ein nod yw sianelu 75 y cant o'n rhoddion cymunedol i'r ddau faes hyn.
Yng Nghymru cefnogwn yr Urdd, Eisteddfod Llangollen, Ysgol Arbennig Pendalar Caernarfon, Cenhadaeth Ieuenctid Gwyn yn Abertawe a Gwasanaeth Allgymorth Ieuenctid y Rhondda i enwi ond ychydig. Bydd rhaglen carbon niwtral gyffrous yn Ysgol Uwchradd Llanidloes ac Ysgol Dinas Brân Llangollen yn helpu myfyrwyr i ddeall a lleihau eu heffaith ar newid yn yr hinsawdd ac yn rhoi dyfais arbed ynni i'r ysgolion e.e. tyrbin gwynt.

Yma yng Nghymru, rydym wedi gweithio'n ddiwyd i addasu ein busnes i ddiwallu anghenion lleol. Ni oedd y cwmni sector preifat cyntaf i ymrwymo i bolisi iaith Gymraeg a'r cyntaf i gyhoeddi cerdyn credyd i Gymru. Rydym hefyd wedi lansio Amanah Finance, sydd wedi'i deilwra'n arbennig ar gyfer ein cwsmeriaid Mwslimaidd.
Rydym hefyd yn gefnogwyr brwd o lawer o sefydliadau cymunedol ac elusennol fel Cymdeithas Pêl-droed Ysgolion Cymru; Tŷ Gobaith; Ymddiriedolaeth Touch; Hosbis George Thomas; Ras 10k Caerdydd; Mudiad Ysgolion Meithrin; Ambiwlans Sant Ioan; Jazz Aberhonddu HSBC; Yr Eisteddfod ac Ymchwil yr Arennau.
Ein pobl yw ein cryfder mwyaf. Nhw sy'n sicrhau bod llwyddiant HSBC yn bosibl. Maent hefyd yn aelodau o'r cymunedau lle maent yn byw ac yn gweithio.
Rydym yn annog ein staff i rannu eu sgiliau a gwireddu eu llawn botensial fel dinasyddion drwy ymwneud â phrosiectau cymunedol lleol.
Ledled Cymru, mae ein staff yn rhannu eu sgiliau drwy weithredu fel gwarcheidwaid natur, mentoriaid a llywodraethwyr ysgol. Daw ein cwsmeriaid a'n staff o gymunedau lleol yng Nghymru, ac felly mae ond yn iawn ein bod yn rhoi rhywbeth yn ôl.
Awydd ymuno â'n tîm? Rhagor o wybodaeth am weithio i HSBC.