Ymrwymiad HSBC i Gymru a'r Iaith Gymraeg
Athroniaeth HSBC yw cryfder byd-eang drwy reolaeth gwlad leol, gan gefnogi gofyniadau busnes ac arferion lleol. Yng Nghymru, mae'r rhagolwg hwn wedi ein galluogi i ymateb yn rhagweithiol i anghenion ein cymunedau lleol.
Yn HSBC rydym yn ymroddedig i fywyd, diwylliant a phobl Cymru a'n nod yw croesawu'r iaith Gymraeg yn ein holl ganghennau yng Nghymru, a thrwy wneud hynny darparu gwasanaeth o'r safon uchaf i'n cwsmeriaid.
Ein Gwasanaeth Iaith Gymraeg
Tîm o ymgynghorwyr sy'n medru'r Gymraeg ar gael 08:00-20:00, 7 diwrnod yr wythnos
Os nad oes ymgynghorydd sy'n medru'r Gymraeg ar gael pan fyddwch yn ein ffonio, byddwn yn gwneud trefniadau i siaradwr Cymraeg gysylltu â chi. Fel arall, gallwn fynd ymlaen â'r alwad yn Saesneg
Gellir adnabod pob aelod o staff yn y gangen sy'n rhugl yn y Gymraeg gan yr arwyddlun Cymraeg ar eu bathodyn enw
Cynigir gwasanaeth cyfieithu llawn yn ein canghennau yng Nghymru lle bydd unrhyw ohebiaeth gan gwsmeriaid a dderbynnir yn y Gymraeg yn derbyn ymateb Cymraeg
Nawdd yng Nghymru
Trwy gydweithio’n agos â chymunedau ledled Cymru, mae HSBC wedi bod ynghlwm â sawl digwyddiad, gan gynnwys:
Cysylltwch â'r Gwasanaeth Iaith Gymraeg
03457 030304
neu
03456 082400
Mae'r llinellau ar agor 08:00-20:00 bob dydd ac eithrio Dydd Nadolig, Gŵyl San Steffan a Dydd Calan. Mae'n bosib caiff galwadau eu harolygu a/neu recordio.